‘A Bumper Week in Welsh'

Last updated : 08 January 2007 By Dafydd Pritchard

Ymdrechion yr Adar Gleision oedd un o brif straeon y wasg heddiw ac mae'r holl sylw'n deg. Er eu methiannau diweddar yn y Bencampwriaeth, roedd Caerdydd yn edrych yn gyfforddus iawn yn erbyn eu gwrthwynebwyr o'r Uwch Gynghrair. Fel y disgwyl, roedd Parc Ninian yn llawn a bu'r awyrgylch yn un anhygoel o fywiog. Ymysg y gwynt a'r glaw, cafodd Spurs groeso i'w gofio wrth i gefnogwyr y tîm cartref rhuo'n ffyrnig trwy gydol y naw deg munud prysur. Roedd y gêm brynhawn ddoe yn enghraifft berffaith o'r hud a'r lledrith sydd yn gysylltiedig â'r Cwpan F.A. Er i'r canlyniad awgrymu diflastod, diddorol dros ben oedd yr ornest.


Dangosodd Tottenham taw nhw oedd y tîm â record cant y cant ym mhob cystadleuaeth cwpan y tymor hwn yn ystod y deg munud cyntaf, wrth iddynt ymdopi â'r tywydd garw i gadw'r bêl yn afaelgar. Unwaith i'r nerfau leddfu, chwaraeodd Caerdydd eu pêl-droed gorau ers wythnosau – yn llawn egni a balchder. Roedd Michael Chopra'n cadw amddiffyn yr ymwelwyr o dan bwysau llethol, a dylai'r cyn-ymosodwr Newcastle wedi gwneud yn well o'i gyfle a ddaeth o beniad erchyll Lee Young-Pyo. Bu'r pwysau'n gyson hefyd wrth i Steve Thompson boeni Paul Robinson efo'i beniad llithrig, a roedd gwaith y gôl-geidwad yn anoddach fyth efo Willo Flood yn llwytho'r cwrt cosbi efo nifer o groesiadau peryglus.


Yn yr ail hanner, roedd y ddau dîm yn dal i chwarae pêl-droed o safon dda, wrth ystyried y tywydd Arctig ond, ar y cyfan, Caerdydd oedd yn edrych y mwyaf tebygol o ennill. Jermain Defoe ddaeth agosaf i gipio buddugoliaeth i Spurs ond roeddent yn ddiolchgar dros ben i Teemu Tainio ar ôl i'r gŵr o'r Ffindir atal Joe Ledley rhag ergydio â dim ond munud yn weddill. Bu'r ymwelwyr yn amddiffyn yn gryf iawn yn ystod y pum munud olaf ac roedd yr hyfforddwr, Martin Jol, yn amlwg yn falch eu bod nhw wedi ennill yr hawl i ail-chwarae'r gêm wythnos nesaf.

Cyn y perfformiad calonogol hynny, fel y dwy fis diwethaf, siomedig iawn oedd canlyniadau adeg y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Ar ddydd Sadwrn y trydydd ar hugain o Ragfyr y bu'r Adar Gleision yn ymweld â Chaerlŷr, a gêm uffernol o ddiflas oeddi hi. Er i'r ymwelwyr ddangos ambell i fflach o welliant, nid sioc oeddi hi taw'r canlyniad oedd dim gôl i ddim. Ar brynhawn Sant Steffan, roedd y sefyllfa'n ymddangos i waethygu wrth iddynt chwarae'n wael uffernol yn erbyn Plymouth yr yr hanner cyntaf. Roedd yn amlwg i bawb ym Mharc Ninian bod Stephen McPhail a Riccardo Scimeca yn bell o fod yn iach a bu hyn yn golygu bod yna dim patrwm o gwbl i chwarae'r tîm cartref. Nid oedd yna un enghraifft o Gaerdydd yn rhoi mwy na phump pas cywir at ei gilydd a, fel y disgwyl, yr ymwelwyr aeth ar y blaen wrth iddynt gymryd eu hynnig cyfle cyn yr egwyl. Yn dilyn gwaith clyfar Barry Hayles ac amddiffyn gwawdlyd, roedd David Norris yno i rwydi'n gampus yn erbyn Caerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol.

Erbyn hanner amser yn erbyn Plymouth, roedd yr Adar Gleision yn ymddangos i chwarae'r pêl-droed gwaethaf sydd wedi'i weld yn ystod amser Dave Jones. Roedd y cefnogwyr yn difaru gwastraffu eu hamser Nadoligaidd yn dyst i'r siambls ond, yn ffodus iddynt hwy, dyn balch dros ben yw'r hyfforddwr. Bu'n amlwg bod Jones wedi rhoi ‘roced', fel y medd ef, i'w dîm yn yr ystafell newid oherwydd daeth ei chwaraewyr allan ar gyfer yr ail hanner wedi'u hysbrydoli. O fewn deng munud cyntaf yr hanner, roedd Steven Thompson wedi rhoi ei dîm ar y blaen – yn gyntaf ar ôl pas ei bartner, Michael Chopra, ac, yn ail, yn dilyn gwaith gwyrthiol Kevin McNaughton ar yr asgell dde. Roedd y Grange End yn ddaeargryn o ddathliadau a roedd y cryndod o obaith newydd yn ymledu'n ffyrnig o gwmpas y stadiwm.

Ar un adeg, roedd Caerdydd yn edrych fel eu bod nhw am droi buddugoliaeth yn grasfa ond, unwaith eto, daeth Hayles o hyd i Norris, ac i gefn y rhwyd aeth ergyd isel y chwaraewr canol cae. Wedi gweld y gôl eto ers hynny, mae rhaid cwestiynnu Neil Alexander a'i fethiant i atal ymgais digon cyffredin rhag unioni'r sgôr. Er hynny, nid y gôl-geidwad oedd ar fai am berfformiad siomedig a, mewn gwirionedd, nid oedd y tîm cartref wir yn haeddu ennill y gêm ar ôl eu hymgeision gwarthus yn yr hanner cyntaf.

Dwy gêm ddiflas a rhwystredig iawn dilynodd yr ornest ar brynhawn Sant Steffan. Y cyntaf oedd y gêm ddi-sgôr yn erbyn Crystal Palace a rhyfeddod llwyr oeddi hi bod Caerdydd heb roi crasfa go iawn i'w gwrthwynebwyr gwan. Nid oedd Palace yn edrych yn agos o fod yn ymgeiswyr o ddifri am ddyrchafiad a siom oedd brif thema'r gêm unwaith eto i gefnogwyr ym Mharc Ninian. Tebyg iawn oeddi hi yn erbyn Luton dau ddiwrnod yn ddiweddarach. Rhwystredigaeth, siom a mwy o rwystredigaeth. Er i Luton wario chwarter awr â dim ond deg dyn, nid oedd Caerdydd yn gallu cymryd mantais, a'r holl oedd ganddynt i ddangos am eu hymdrechion yn Heol Kenilworth oedd un pwynt. Dwy gêm, felly – dim goliau a dim ond dau bwynt allan o chwech, a'r angen am chwaraewyr newydd yn boenus amlwg.

Problem ddifrifol sydd yn gwynebu Dave Jones ar hyn o bryd yw'r diffyg cyfleusterau o safon dda yng Nghaerdydd. Mae'r hyfforddwr wedi cydnabod ei fod yn barod wedi methu ag arwyddo un chwaraewr am fod clwb arall yn gallu cynnig gwell stadiwm a chyfleusterau ymarfer ac ati. Y sôn yw taw'r chwaraewr yw Gary Roberts, yr asgellwr a ddisgleiriodd i Ipswich ym Mharc Ninian yn ddiweddar, sydd wedi penderfynnu i aros yn Heol Portman ar ôl amser ar fenthyg yno, am fod y clwb efo gwell sefydliad na Chaerdydd. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Dwy mlynedd yn ôl, gwrthododd yr amddiffynwr Jason De Vos y cyfle i ymuno â Chaerdydd am yr un rhesymau, a'i benderfyniad ef oedd i arwyddo i Ipswich hefyd. Mae hyn yn fater difrifol, ac mae'n hanfodol bod y stadiwm yn cael ei adeiladu'n fuan (yn ogystal â chyfleusterau ymarfer safonol) er mwyn i Gaerdydd sicrhau bod y chwaraewyr gorau posib yn ymuno.

Ar nodyn fwy obeithiol, mae sefyllfa gôl-geidwadwyr y clwb yn ymddangos yn un iach iawn yn dilyn penderfyniad Neil Alexander i arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw yn y brif ddinas tan 2009. Yn ogystal â hyn, mae'r Gwyddel, David Forde, wedi ymuno o Derry City, sydd yn golygu y bydd Mark Howard yn debygol o adael y mis hon heb greu fawr o argraff yn ei amser byr yma.

Gwyl ddiddorol i Gaerdydd felly. Rhagor o siomedigaeth ond ychydig o obaith ar ôl perfformio'n barchus yn erbyn gwrthwynebwyr o safon uwch yn y Cwpan. Gobeithio y bydd Dave Jones yn gallu ychwanegu i'w garfan er mwyn curo Spurs a rhoi sbardun i'r chwaraewyr i ail-gydio yn safonau uchel cynharach y tymor.