Cardiff City's ‘Season and Alternative Awards in Welsh'

Last updated : 16 June 2006 By Dafydd Pritchard

Ers i Sam Hammam gymryd rheolaeth o'r Adar Gleision, mae safleoedd y clwb wedi osiladu'n wyllt, ond unfed ar ddeg parchus iawn oedd safle terfynol y Brif Ddinasyddion.

Yn ôl ym mis Awst, bu papurau newydd a chylchgronnau yn sicr bod Dave Jones a'i dîm yn gwynebu alltudiaeth i'r Ail Gynghrair ond ar ben arall y tabl oeddent hwy ar ddiwedd y tymor. Tebyg i'r Adar Gleision oedd hanes Watford, a oedd wedi syfrdanu nifer o bobl wrth osgoi alltudiaeth a sicrhau dyrchafiad i'r Brif Gynghrair, yn groes i holl ddisgwyliadau dechrau'r tymor. Bu'r ddau dîm yn cwrdd yn gynnar yn y tymor ac unochrog iawn oedd y gêm a'r canlyniad wrth i'r gwŷr o Gaint ennill o dair gôl i un. Er y siom hyn, addawol iawn oedd y dechreuad i dymor Caerdydd.

Nid oedd diwrnod cyntaf y tymor yn un hynod o dda â'r golled yn Ispwich ond roedd gêm cartref cyntaf y tymor yn un gofiadwy. Ymwelwyr Parc Ninian y noson honno oedd Leeds, ein ffrindiau annwyl o'r Gogledd. Fel yn y gêm Cwpan F.A pedair mlynedd yn ôl, dwy gôl i un i'r tîm cartref oedd y canlyniad. Dangosodd y berfformiad cryf yma bod Dave Jones o ddifri bod ei dîm am wir gystadlu â'r goreuon yn y Bencampwriaeth. Yn arwyddocaol o'r tymor, Jason Koumas sgoriodd y gôl gyntaf, chwip o ergyd a'i droed chwith. Roedd y chwaraewr canol cae ond wedi bod ar y cae am ryw bum munud erbyn iddo gyhoeddi ei hun fel arwr i'r Adar Gleision. Hud a lledrith Koumas oedd yn gyfrifol am greu'r awyrgylch anhygoel, a'r naws yma arweiniodd at y gôl fuddugol. Yn addas, y capten newydd, Darren Purse, sgoriodd y gôl efo'i gic rymus o'r smotyn. Dyma oedd dechrau oes Dave Jones.

Yn dilyn dwy golled i Watford a Derby aeth y tîm ar rediad cryf o wyth gêm heb golli a dim ond un colled o fewn un gem ar ddeg. Uchafbwyntiau'r rhediad oedd buddugoliaethau dros Gaerlyr, Crystal Palace ac wrth gwrs, y cweir a roddwyd i Crewe Alexandra. Pob hyn a hyn, mae'r Adar Gleision yn rhoi crasfa i dimau, fel y mae Sunderland, Gillingham ac Oldham yn ymwybodol, a'r rheini'n dioddef y tymor yma oedd Crewe. Y sgôr rhyfeddol oedd 6-1 ac yn fwy rhyfeddol fyth, roedd yna chwech sgoriwr gwahanol. Ymhlith y domen o goliau oedd ergyd hyfryd Koumas a ddaeth ar ôl iddo ddrysu o leiaf pedwar o'i wrthwynebwyr â'i rediad gampus.

Daeth y rediad yma yn ystod mis Medi a Hydref, uchafbwyntiau'r tymor mae'n debyg, wrth i Gaerdydd agosai at safleoedd gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth. Dyma hefyd oedd adeg mwyaf llwyddiannus Cameron Jerome. Roedd yr ymosodwr ifanc eisioes wedi profi ei hun fel seren i gefnogwyr Caerdydd ond roedd ei lwyddiannau aruthrol yn ystod rhediad ffrwythlon ei dîm yn sicrhau bod timau'r Uwch Gynghrair yn dechrau cymryd sylw o'i ddawn. Erbyn i'r tymor ddod i ben, roedd y gŵr ifanc o Ogledd Lloegr wedi sgorio ugain o goliau, a bu'r cyfanswm hwn yn ddigon i berswadio Birmingham i wario dros tair miliwn o bunoedd i'w arwyddo'r ddiweddar. Yn groes i'r tymor diwethaf lle bu'r cefnogwyr yn llwyr ddigalon wrth weld eu ffefrynnau Danny Gabbidon, James Collins a Graham Kavanagh yn gadael, mae'r rheini o blaid yr Adar Gleision yn cydnabod bod y gytundeb gwerth pedwar miliwn posib yn darn o fusnes da. Gobaith y rhan fwyaf helaeth yw bydd yr arian yn cael ei wario ar chwaraewyr eraill, megis Koumas, i gryfhau ymgais y clwb am ddyrchafiad y tymor nesaf. Hyderaf bod ein cefnogwyr yn ddiolchgar i Cameron am ei ymdrechion ac yn dymuno pob lwc iddo efo'i glwb newydd.

Anghyson oedd Gaeaf Caerdydd ar ôl eu rhediad campus yn yr Hydref. Yn ogystal â buddugoliaethau gwych dros Sheffield Wednesday a Leeds, bu'r Adar Gleision yn siomedig wrth golli i Hull ac yn wawdlyd i Plymouth ar Wyl Saint Steffan. Gêm i'w anghofio oedd y golled i Plymouth wrth i berfformiad y Prif Ddinasyddion awgrymu eu bod nhw'n rhoi anrheg Nadolig i'w gwrthwynebwyr. Efallai bod y fath beirniadaeth yn hallt, gan ystyried bod y chwaraewyr yn dechrau blino erbyn hyn o ganlyniad i'r ffaith eu bod nhw'n rhan o garfan bach. Y rheini a oedd yn amlwg yn dioddef oedd Jerome a Joe Ledley, y ddau'n dal i fod yn eu harddegau ac heb arfer a chwarae'n ddi-baid o wythnos i wythnos. Er hyn, roedd y ddau wedi perfformio'n ddewr a galluog trwy gydol y tymor a gafodd Ledley ei worbrwyo a thlws Chwarewr Ifanc y Tymor yn ogystal â'i gapiau rhyngwladol llawn cyntaf.

Parhaodd yr anghysondeb yn ystod y flwyddyn newydd wrth i Gaerdydd amrywio buddugoliaethau dros Stoke, Burnley a Chaerlyr efo colledion i Reading a Watford. Roedd y goliau yn dal i ddod i Jerome a Koumas ond roedd yna rhagor o awgrymiadau bod y garfan yn dechrau blino. Unwaith i lewyrch y blwyddyn newydd ddod i ben, bu ymgais yr Adar Gleision i gyrraedd y gemau ail-gyfle yn dymchwel.

Buddugoliaethau dros Sheffield Wednesday a Plymouth ym mis Mawrth oedd rhai olaf y tymor. Ar ôl dod yn agos i'r gemau ail-gyfle ac ar ôl mwynhau trip i Highbury, roedd rhaid i Gaerdydd wynebu'r realiti o chwarae â charfan bach tuag at ddiwedd y tymor. Yn ystod y chwech gêm diwethaf, bu tîm Dave Jones yn colli pump. Digalon oedd gweld y tîm yn llithro i lawr tabl y Bencampwriaeth yn dilyn blwyddyn o waith caled a pherfformiadau dawnus. Er y diweddglo siomedig, nid oedd yna wir deimlad sur o gwmpas Parc Ninian wrth i'r cefnogwyr sylweddoli taw llwyddiant oeddi hi bod y clwb yn hanner uchaf y Bencampwriaeth.

Gosododd Dave Jones a'i recriwts sylfaen da i ni gynyddu arno'r tymor nesaf ac mae'n ymddangos bod y gwaith o gynyddu wedi dechrau'n barod. Y chwaraewyr newydd i ymuno mor belled yw Michael Chopra, Stephen McPhail, Kevin McNaughton a Mark Howard. Ymddangosai fod Dave Jones wedi arwyddo'n graff a dylai'r chwaraewyr ifanc, galluog hyn gyfuno'n dda efo'r garfan profiadol sydd yn y Brif Ddinas yn barod. Tymor cyntaf cadarn dros ben i Dave Jones ac mae'n debyg bydd yr haf yn brysur ac yn arwain at dymor llewyrchus arall ym mis Awst.

Gwobrau'r Tymor

Chwaraewr y Flwyddyn – Jason Koumas

Daeth Martyn Margetson yn agos iawn efo'i berfformiadau disglair ar y fainc ond, mewn gwirionedd, Koumas oedd yr unig ennillydd posib. Pan yn ystyried ei fod yn cynrychioli tîm yng nghanol y cynghrair, mae'r ffaith ei fod wedi sgorio 12 gôl o ganol cae yn dangos ei fod yn chwaraewr arbennig.

Uchafbwynt: Ei gêm a'i gôl gyntaf i'r clwb yn erbyn Leeds.

Methiant y Flwyddyn – Phil Mulryne

Yn dilyn hyfforddiant efo Man Utd a gyrfa llwyddiannus â Norwich, siom oedd absenoldeb Mulryne y tymor hwn. Dim ond pedwar ymddangosiad byr oedd i'w weld gan y gŵr o Ogledd Iwerddon. Mae'n debyg taw'r effaith mwyaf positif i ddod o'i amser yma oedd y cynnydd yn elw'r siopiau peis lleol.

Uchafbwynt: Cael ei ddiarddel o garfan rhyngwladol Gogledd Iwerddon.

Arwr y Flwyddyn – Darren Purse

Ar adegau, roedd talcen y Saes yn edrych fel ei fod wedi'i wneud o haearn wrth iddo benio pêl ar ôl pêl trwy gydol y tymor. Roedd yr amddiffynwr yn benderfynol o daclo unrhywbeth a oedd yn symyd o'i flaen. Arwr.

Uchafbwynt: Cael ei anafu ym mhob gem ond yn chwarae ymlaen trwy'r poen.

Tacl y Flwyddyn – Jeff Whitley

Yn ystod ein gêm cartref yn erbyn Coventry, gwelwyd tacl mwyaf ffyrnig y flwyddyn, os nid erioed. Wrth i bêl uchel ddisgyn rhwng Whitley a Matt Heath, chwaraewr tal Coventry oedd y ffefryn i gymryd y bêl ond, yn anffodus iddo fe, roedd Whitley yn benderfynol o'i atal. Nid penio'r bêl yn unig wnaeth Whitley ond penio Heath yn ei dalcen (ar ddamwain, mae'n siwr) a gadael ei wrthwynebwr ar lawr.

Uchafbwynt: Nid oedd Whitley i'w weld wedi'i frifo o gwbl.

‘Dave' y Flwyddyn – Guylain Ndumbu-Nsungu

Er iddo ond ymddangos am ambell i funud, roedd y munudau rheini'n fythgofiadwy.

Uchafbwynt: Ei bresenoldeb.