Cardiff City's 'Week in Welsh'

Last updated : 09 January 2006 By Dafydd Pritchard

Atgofion melys iawn sydd gan rhan fwyaf o gefnogwyr Caerdydd wrth iddynt feddwl am eu hanes yn erbyn Arsenal yn y gystadleuaeth hon. Gobeithio, nid disgwyl, canlyniad tebyg i’r un ym 1927 oedd y mwyafrif. Ar ddydd Sadwrn, teithiodd dros chwech mil o gefnogwyr mwyaf ffyddlon Caerdydd i Ogledd Lundain i weld eu tîm nhw’n cadw eu balchder er iddynt ddod at ddiwedd eu rhediad yn y Cwpan F.A.

Bu’r Adar Gleision yn brwydro’n galed dros ben ond roedd Arsenal yn rhy gryf, yn llawn sgil a thalent dros y cae. Gwahaniaeth mwyaf y gêm oedd yng nghanol cae, lle bu Dennis Bergkamp yn rheoli’r gêm fel y dymunai.

Dechreuad obeithiol cafodd yr ymwelwyr wrth i Cameron Jerome fynd yn agos at sgorio’r gôl gyntaf. Cam-arweiniol oedd hyn. Cyn hir, bu’r ‘Gunners’ yn dechrau dangos y doniau sydd wedi dod a chymaint o lwyddiant i dîm Arsene Wenger dros y blynyddoedd.

Cyn y gêm ar ddydd Sadwrn, doedd Robert Pires heb fwynhau tymor da o gwbl ond o fewn y chwarter awr cyntaf, roedd y Ffrancwr wedi rhwygo amddiffyn Caerdydd i ddarnau mân. Daeth y gôl cyntaf ar ôl i Jose Antonio Reyes ddarganfod Pires mewn gwagle, a chyn i Neil Alexander gael cyfle i ymateb, roedd y bêl yng nghefn y rhwyd. Dyma oedd Arsenal ar eu gorau, yn pasio’r bêl yn gyflym ac yn gywir. Pêl-droed syml a phrydferth.

Wedi i Robin van Persie a Dennis Bergkamp gyfnewid pasus, roedd Pires â ddigonedd o amser i wneud hi’n 2-0 i’r tîm cartref. Erbyn hyn, roedd dylanwad van Persie a Bergkamp ar y gêm yn cynyddu ac edrychai fel bod Caerdydd ar eu ffordd at grasfa. Ond mae rhaid rhoi clod i’r Adar Gleision am beidio rhoi’r ffidl yn y to. Ar wahan i van Persie yn taro’r trawst, bu’r ymwelwyr yn amddiffyn yn styfnig a bron i Cameron Jerome dynu gôl yn ôl iddynt.

Yn yr ail hanner, bu Caerdydd yn parhau â’u gwaith caled, yn atal Arsenal rhag ychwanegu i’w goliau cynnar. Wedi brwydro’n ddi-baid trwy’r prynhawn, daeth y wobr i’r chwaraewyr ac i’r cefnogwyr wrth i Jerome sgorio’i drydydd gôl ar ddeg o’r tymor. Perfformiad parchus iawn oedd hyn a bu’r cefnogwyr yn sicr yn mwynhau eu taith i Lundain. Trwy gydol y gêm, roeddent yn gefn i’r tîm wrth iddynt ganu’n ddi-baid. Hyd yn oed pan fu Arsenal ar y blaen yn gyfforddus, fe ddangoson nhw eu hochr ddoniol,

“Two-nil and you still don’t sing!”

Oedd y floedd at gefnogwyr Highbury. Yn sicr, diwrnod i’w gofio i’r chwaraewyr ac i’r cefnogwyr.

Oddi ar y cae, fe arwyddwyd Guylain Ndumbu-Nsungu o Darlington am ddim. Mae’r gwr o’r Congo wedi chwarae i Amiens, Sheffield Wednesday, Preston a Colchester. Newyddion arall o ran chwaraewyr yn dod mewn a mas o’r clwb yw bod Alan Lee yn agosai at symud i Ipswich, mae Michael Ricketts wedi dychwelyd i Leeds ac mae’n debygol y bydd Steven Thompson yn ymuno â Chaerdydd o Rangers yn fuan.