Cardiff City's 'Week in Welsh'

Last updated : 16 January 2006 By Dafydd Pritchard

Wythnos lwyddiannus iawn oedd yr wythnos diwethaf i Gaerdydd. Er i’r ail dîm golli i Gaerfyrddin yng nghystadleuaeth lleiaf pwysig y tymor, fe wnaeth Dave Jones yn hynod o dda wrth i’r ‘ffenestr brynu’ agor ar ddechrau mis Ionawr. Allan aeth Tony Warner a’r methiannau, Alan Lee a Toni Koskela ac yn eu lle daeth, Steve Thompson, chwaraewr rhyngwladol yr Alban a Riccardo Scimeca, gŵr â dros deng mlynedd o brofiad yn yr Uwch Gynghrair.

Yn dilyn wythnos prysur o brynu a gwerthu, Steve Thompson, un o’r chwaraewyr newydd i ymuno, oedd yr arwr ar ddydd Sadwrn wrth i Gaerdydd guro Burnley o dair gôl i ddim.

Gêm ddiflas oeddi hi yn ystod y hanner cyntaf wrth i’r ddau dîm fethu creu unrhyw gyfleuon o bwys. Yn ystod y gêm, yr holl all Burnley greu oedd hanner cyfleon i Adi Akinbiyi a Jon Harley. Ar wahan i fflachiadau sydyn gan Jason Koumas, ni ddigwyddodd unrhywbeth o bwys yn ystod y tri chwarter awr cyntaf.

Erbyn hanner amser, rhaid bod ambell i gefnogwr yn dechrau blino ond, yn ffodus, roedd sêr y sioe hynod boblogaidd ‘Dirty Sanchez’ ar gael i ddangos eu ‘doniau’. Yn gwisgo bron i ddim byd, bu pobl yn cael y cyfle i gicio peli at ben-olau Pritchard, Dainton a’u cyfeillion. Roedd y rheini yn y Grange End yn sicr wedi’u diddanu.

O fewn chwarter awr i’r gêm ail-ddechrau, rhoddodd Thompson yr Adar Gleision ar y blaen wrth iddo fanteisio ar gamgymeriad gôl-gadwr Burnley. O dan bwysau Cameron Jerome, gollyngodd Brian Jensen y bêl a roedd Thompson yno i rhoi’r bêl i’r rhwyd agored.

Cyn i’r dorf gael cyfle i bwyllo, roeddent ar eu traed unwaith eto wrth i Thompson ddyblu mantais y tîm cartref. Rheolodd y cyn-chwaraewr Rangers y bêl yn dda cyn troi’n sydyn a rhoi chwip o ergyd heibio Jensen. Gôl wych y bysai Michael Ricketts ond yn gallu breuddwydio am sgorio.

Jason Koumas, seren y tymor, oedd sgoriwr y drydydd gôl. Y dewin yng nghanol y cae ddechreuodd y symudiad â rhediad pŵerus cyn iddo ledu’r bêl i Neal Ardley. Erbyn i Koumas gyrraedd y cwrt cosbi, roedd croesiad perffaith Ardley wedi cwrdd â’i ben i gyflawni gôl wefreiddiol.

Wedi i’r sgorio ddod i ben, y digwyddiadau mwyaf nodweddiadol oedd ymddangosiadau cyntaf Riccardo Scimeca a Guylaine Ndumbu-Nsungu. Dangosodd Scimeca ambell i enghraifft o’i allu y bu’n dod a llwyddiant iddo yn yr Uwch Gynghrair yn ddiweddar ond ni gafodd Ndumbu-Nsungu lawer o amser i gyfrannu.

Nid perfformiad gorau’r tymor oedd hyn ond canlyniad gwych sy’n ein cadw’n agos at y chwech prif safle yn y tabl. Addaol iawn oedd perfformiad Thompson a dylir ddisgwyl mwy o welliannau eto os y bydd Dave Jones yn ychwanegu at y garfan yn ystod yr wythnosau nesaf.