Cardiff City's Week in Welsh

Last updated : 01 February 2006 By Dafydd Pritchard

Prif nod yr wythnos hon oedd i osgoi colli Cameron Jerome neu Jason Koumas wrth i’r ‘ffenestr arwyddo’ gau tan yr haf. Mae’n edrych yn debygol y bydd y ddau yn dal yn rhan o’r garfan tan ddiwedd y tymor. Am eu bod allan o’r Cwpan F.A, yr holl oedd gan dîm Caerdydd i wneud oedd torheulio ar y cyfandir. Rhaid cyfaddef bod y chwaraewyr wedi haeddu amser i ymlacio ond prysurodd Dave Jones i ychwanegu bod pawb wedi bod yn ymarfer yn galed iawn drwy gydol yr wythnos.

Haeddiannol oedd y daith i Bortiwgal wrth ystyried bod Caerdydd, am yr ail waith yn unig y tymor yma, wedi ennill dau gêm yn olynol ac wrth wneud hyn, wedi sicrhau bod Caerlyr mewn safle annarferol iawn tuag at waelod y gynghrair.

Unwaith eto, arwyr Caerdydd oedd Cameron Jerome a Jason Koumas. Y prif sgoriwr Jerome rhoddodd yr ymwelwyr ar y blaen ac wedi i Matty Fryatt unioni’r sgor, Koumas enillodd y gêm i Gaerdydd wrth iddo sgorio cic rhydd anhygoel arall.

Ar bapur, tîm cryf sydd gan Gaerlyr, yn cynnwys nifer o chwaraewyr â phrofiad rhyngwladol ac yn yr uwch gynghrair, megis Rab Douglas, Nils-Eric Johansson ac Alan Maybury. Er iddynt fygwth sgorio yn gynnar yn y gêm, dangoson nhw pam eu bod yn ail ar hugain yn y tabl wrth iddynt fethu i greu cyfleon.

Enghraifft wych o wrth-ymosod oedd gôl cyntaf y gêm. Fe wnaeth Chris Barker yn dda i rhyngipio’r bêl cyn rhyddhau Neal Ardley i lawr yr asgell dde â phas wefreiddiol. Roedd croesiad Ardley yn berffaith i Jerome ei gwrdd ac i benio’r bêl yn rymus i gornel y rhwyd. Aeth un cornel o’r stadiwm yn wyllt ond bu’r rhan fwyaf o’r Walker’s Bowl yn fud a dyna sut arhosodd hi am weddill y gêm.

All fod Steve Thompson wedi dyblu’r fantais ond wedi iddo fethu’i gyfle, Caerlyr oedd y tîm nesaf i sgorio. Roedd y gôl yn ein hatgoffa o amddiffyn chwerthinllyd cyn-dimau Caerdydd o dan Lennie Lawrence wrth i neb ddelio â pheniad uchel. Dylai Neil Alexander wedi delio a’r broblem ond, rhywsut, daeth y bêl i Matty Fryatt sgorio’i gôl gyntaf i’w glwb newydd.

Roedd y gêm ychydig yn flêr pan oedd y sgor yn 1-1 ond taclus iawn oedd y gôl fuddugol. Gwnaeth amddiffyn Caerlyr y camgymeriad o roi gic rhydd i Gaerdydd o fewn 25 llath o’r gôl. Camodd Koumas at y bêl a’i ergydio’n wych i’r unig man lle doedd gan Douglas dim obaith o gwbl i’w arbed.

Wythnos llwyddiannus felly sy’n rhan o fis Ionawr ffrwythlon iawn i Gaerdydd. Yn ogystal ag ennill nifer o gemau, uchafbwyntiau’r mis oedd arwyddo Guylaine Ndumbu-Nsungu, Steve Thompson a Riccardo Scimeca i wella’n hymgeisiau i gyrraedd yr Uwch Gynghrair yn y dyfodol cyfagos.