Cardiff City's ‘Week in Welsh'

Last updated : 07 February 2006 By Dafydd Pritchard

Er i fis Ionawr brofi i fod yn lewyrchus iawn, siomedigaeth oedd wythnos cyntaf mis Chwefror. Yn ogystal â’r rheini â’r bêl hirgron yn cael eu trechu yn Nhwickenham, cymerodd pêl-droedwyr Caerdydd un pwynt yn unig o’u dau gêm diwethaf.

Ar nos Fawrth daeth Millwall i ymweld â Pharc Ninian a roedd yna groeso cynnes iawn i’n cyfeillion o Lundain. Fel sydd wedi digwydd yn aml tymor yma, fe ddaeth y tîm oddi cartref i’r Brif Ddinas i ennill un pwynt yn unig. Amddiffyn styfnig oedd y drefn yn ystod yr hanner awr cyntaf nes i Cameron Jerome rhoi’r Adar Gleision ar y blaen. Darganfododd Riccardo Scimeca’r blaenwr ifanc â phas wych ac, erbyn i Jerome daranu’r bêl i gefn y rhwyd, doedd gôl-geidwad Millwall heb symyd. Jason Koumas oedd yn rhedeg y gêm unwaith eto ac roedd ef a Steve Thompson yn euog o fethu cyfleuon da. Yn ogystal â hyn, cafodd Jerome ei lorio yn y cwrt cosbi ond rhywsut ni sylweddolodd y dyfarnwr ar y dacl rygbi. Dylai Caerdydd wedi gwneud y gêm yn ddiogel erbyn i Millwall unioni’r sgôr. Chwaraewr newydd yr ymwelwyr, Berry Powel, oedd wedi troi o gwmpas Rhys Weston ac ergydio’n isel i gornel y rhwyd i sicrhau pwynt i’w dîm. Doedd Caerdydd methu creu unrhyw agoriadau eraill ac wedi gorfod derbyn eu bod wedi taflu dwy bwynt gwerthfawr i ffwrdd.

Wedi siom canol yr wythnos, i Lundain aeth gŵyr Dave Jones i gadw’u gobeithion gemau ail gyfle yn fyw yn erbyn Crystal Palace. Enghraifft glasurol o ‘chwech-bwyntiwr’ oedd y gêm hon. Er i’r tîm cartref fethu ennill yn eu pedwar gêm diwethaf, roedd gan Palace Aki Riihilahti i ddiolch am fuddugoliaeth o un gôl i ddim. Roedd y hanner cyntaf yn ddigon di-ddigwyddiad heb law am ambell i broblem y bu Jobi McAnuff yn achosi iI’w gyn-glwb. Roedd Cameron Jerome yn meddwl ei fod wedi rhoi Caerdydd ar y blaen ond ni gafodd y gôl ei ganiatau. Andy Johnson greuodd y gôl wrth iddo ddawnsio heibio amddiffyn Caerdydd cyn pasio’r bêl i Riihilahti a ni wnaeth y gwr o’r Ffindir unrhyw gamgymeriad wrth danio’r bêl heibio Alexander. Gobaith olaf yr Adar Gleision oedd gweld ‘One Size’ Fitz Hall yn derbyn cerdyn coch am rhoi ergyd â’i ben elin i Joe Ledley ond buddugoliaeth oeddi hi i ‘Palace’.

Wythnos eithaf digalon felly ond dim ond chwech pwynt sy’n ein gwahanu ni â safle olaf y gemau ail-gyfle. Bydd rhediad o ddau neu dri buddugoliaeth yn siwr o sicrhau y bydd yr Adar Gleision yn hedfan eto’n fuan.