Cardiff City's ‘Week in Welsh'

Last updated : 17 February 2006 By Dafydd Pritchard

Yn ddiweddar, mae Mike Newell wedi bod yng nghanol y bwnc losg o ‘bungs’ a twyllo ym mhêl-droed Prydeinig. Er iddo sicrhau ei fod byth wedi colli ar bwrpas, rhaid ei fod yn teimlo bod ei dîm wedi taflu’u gêm diwethaf i ffwrdd. Roedd Luton ar y blaen o ddwy gôl ar ddau adeg wahanol ond y sgôr derfynol oedd 3-3. Er i mi osgoi’r chwarae ar eiriau amlwg i ddechrau, torrodd Jason Koumas galonau cefnogwyr y ‘Hatters’ ar ddiwrnod Sant Ffolant wrth iddo sgorio gôl hollol wefreiddiol â dim ond tair munud yn weddill. Y siom i Gaerdydd oedd y dylai un pwynt wedi bod yn dri wrth i’r dyfarnwr wrthod rhoi cic o’r smotyn iddynt yn hwyr yn y gêm.

Roedd Caerdydd yn ymddangos i chwarae’n dda i ddechrau ond Luton aeth ar y blaen ar ôl 25 munud. Er iddo wastraffu dau gyfle’n gynharach, Rowan Vine oedd ar gael i benio croesiad Dean Morgan i gornel pella’r gôl. Cyn i’r dorf gael cyfle i eistedd ar ôl cynnwrf y gôl cyntaf, roedd Vine wedi dyblu’r fantais. Methodd yr ymosodwr reoli’r pas iddo ac, er iddo gwympo, roedd ganddo ddigon o amser i ddanfon y bêl heibio Neil Alexander. Roedd rhaid i Gaerdydd amddiffyn yn styfnig i gadw’r sgôr yn 2-0 ac i gadw’u hunain yn y gêm.

Nid sioc oeddi hi taw Koumas oedd yn gyfrifol am grafangu’r ymwelwyr yn ôl mewn i’r gêm. Cymaint yw gallu’r gŵr ar fenthyg o West Brom, nid oedd unrhywun wir wedi’u rhyfeddu gan y ffaith bod ei gôl gyntaf yn daran o 25 llath. Tro ar ôl tro, mae Koumas wedi ein diddanu a goliau o’r nefoedd a nid oedd y fwled hon yn unrhyw wahanol. Wedi rhyngipio’r bêl a’i reoli, taniodd y dewin o bellter syfrdanol a saethodd y bêl yn syth i gornel uchaf y rhwyd. Hud a lledrith llwyr.

Yn ystod yr hanner awr prysur nesaf, ail-ymestynodd y tîm cartref eu mantais trwy gôl Chris Barker i’w rhwyd ei hun a roedd yna gôl cyntaf i Riccardo Scimeca wrth iddo benio’n rymus i’r gornel isaf. Tarodd Joe Ledley’r trawst a roedd gôl-geidwad Luton yn brysur iawn ond Koumas oedd ar law i gipio’r penawdau a’i ail gôl anhygoel o bellter.

Nid yr ergyd wych hynny oedd y gair olaf ar Nos Fawrth. Andy Woolmer, y dyfarnwr, oedd yn gyfrifol am ‘dwyllo’ chwaraewyr Caerdydd o dri pwynt haeddiannol. Er i amddiffynwr Luton lorio, bron ymosod, Koumas mewn modd hollol amlwg, roedd y dyfarnwr yn ddall i bopeth. Roedd yr Adar Gleision wedi’u gwylltio ac roedd angen stiwardiaid i gymryd Woolmer oddi ar y cae.

Ar ôl hanner awr, roedd y gêm wedi’i ennill i Luton ond, yn y diwedd, dylai fod Caerdydd wedi cymryd y pwyntiau. Y trawst, y postyn ac, yn bennaf, y dyfarnwr oedd yn gyfrifol am yr anghyfiawnder hon.

Llawer hapusach oedd Dave Jones a’i dîm ar nos Sadwrn, wedi iddynt drechu Stoke o dair gôl i ddim. Ar ôl agoriad digon blêr, torrodd Kevin Cooper i mewn o’r ystlys cyn ergydio o bellter i do’r gôl. Er bod Jason Koumas wedi’i ddiarddel o’r gêm, roedd y gôl hon yn sicrhau bod yna dal goliau campus i’w gweld ym Mharc Ninian yn ei absenoldeb. Y chwaraewr i ddyblu’r fantais oedd, yn rhyfeddol, Neil Cox. Wedi i Stoke fethu a chlirio’r bêl yn effeithiol, darganfododd yr amddiffynwr ei hun mewn gwagle i sgorio’i gôl gyntaf i’r clwb. Anghredadwy oedd gweld y gŵr 34 mlwydd oed yn penio’i ail gôl yn yr ail hanner i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Adar Gleision. Cyfforddus iawn oedd gweddill y gêm i’r tîm cartref a bodlon iawn oedd y cefnogwyr â’r berfformiad cyflawn.

Heb law am fethiannau’r dyfarnwr yn Luton, wythnos lwyddiannus oeddi hi i Gaerdydd, wrth iddynt gasglu pedwar pwynt parchus o’u dwy gêm. Pan ddaw Hull i’r Brif Ddinas, bydd gennym y cyfle i leihau mantais Preston drostym i dair pwynt yn unig. Cadwch y ffydd!