Cardiff City's ‘Week in Welsh'

Last updated : 21 February 2006 By Dafydd Pritchard

Scotland’s number one!” oedd y floedd o gwmpas Parc Ninian wrth i Neil Alexander berfformio’n wyrthiol i sicrhau buddugoliaeth o un gôl i ddim yn erbyn Hull. Ar adegau, rhaid bod yr ymwelwyr yn teimlo bod yna dau neu dri o Alexanders yn y gôl wrth iddynt ymdrechu a methu ei guro. Sicrhaodd ei ymdrechion arbennig bod Caerdydd yn dal i bwyso’n drwm ar Crystal Palace a Preston a’u llefydd yn safleoedd y gemau ail-gyfle.

Er taw’r gôl-geidwad oedd arwr y prynhawn, gwaith caled cynnar Cameron Jerome oedd yn gyfrifol am yr enillydd. Wrth i Darren Purse benio cic-gôl ymlaen, ymddangosai taw Jerome oedd yr unig person yn y stadiwm oedd yn credu bod ganddo gyfle i sgorio. Galluogodd yr anrhefn a diffyg cyfathrebu rhwng amddiffynwr Hull a’u gôl-geidwad, Boaz Myhill, i Jerome wibio rhyngddyn nhw ac i godi’r bêl dros Myhill i’r rhwyd wag. Enghraifft berffaith o gryfder, cyflymder a dawn sgorio Jerome – yr hyn sydd yn gyfrifol am ei le ar frig tabl sgorio’r gynghrair.

Cyn i Gaerdydd gael cyfle i ymlacio, roedd Leon Cort wedi taro ’nôl i’r ymwelwyr ond ni chafodd y gôl ei ganiatâu am ei fod yn camsefyll. Y cyfle gorau gafodd Hull oedd un Jon Parkin pan roedd y gôl yn hollol agored ond rhywsut, gwibiodd Alexander i atal yr ergyd rhag croesi’r linell. Hyd yn oed wrth edrych ar ail-ddangosiadau’r gêm, mae’r arbediad odidog yn dal i ddrysu a syfrdanu’r gwyliwr. Parhaodd Alexander â’i waith rhagorol wrth iddo arbed o Kevin Ellison a Parkin efo cymorth y postyn. Roedd y Teigrod yn rhuo erbyn hyn ond gall fod Jerome a Steve Thompson wedi ymestyn y fantais cyn hanner amser pe baent wedi cymryd eu cyfleon.

Yn gynnar yn yr ail hanner, roedd Jason Koumas yn dangos ambell i fflachiad o’i ddoniau a bu Jerome yn methu ag ambell i hanner cyfle ond Hull oedd yr unig tîm i fygwth sgorio o ddifri. Roedd canol cae’r ymwelwyr yn rheoli’r gêm ac os bysai ymosodwyr Hull wedi bod yn fwy gywir, bysent yn sicr wedi ennill pwynt, os nid tri. I ychwaneu at eu problemau, roedd yr Adar Gleision yn dechrau gwneud camgymeriadau syml ac yn gwahodd y gwrthwynebwyr i ymosod. Roeddent yn ffodus bod Parkin a’i gyfeillion yn meddwl taw cicio dros y trawst oedd amcan y gêm.

O ganlyniad i gamgymeriadau Caerdydd a chyfleon amrywiol eu gwrthwynebwyr, roedd y dorf yn yssu i glywed y chwiban olaf. Roedd Neil Cox a Purse yn brysur dros ben wrth iddynt glirio ymosodiad ar ôl ymosodiad. Bu Alexander hefyd yn dal i fod o dan bwysau aruthrol ond roedd seren y gêm yn benderfynol bod dim byd am fynd heibio fo.

Gêm flêr iawn oeddi hi ond, yn ffodus, roedd y canlyniad yn foddhaol iawn. Er i ni berfformio’n weddol gwael ar adegau, calonogol oedd gweld y chwaraewyr yn brwydro’n ffyrnig i gadw ein gobeithion o ddyrchafiad yn fyw. Mae’r ffaith ein bod yn gallu ennill er i ni dangyflawni yn dystiolaeth o sut mae Dave Jones wedi gwella’r clwb. Dim ond tri pwynt sy’n ein gwahanu ni a loteri’r gemau ail-gyfle.