Cardiff City's ‘Week in Welsh'

Last updated : 02 March 2006 By Dafydd Pritchard

Yn ôl ym mis Awst, y sôn oedd y bysai Watford a Chaerdydd yn siwr o fod ar waelod y tabl erbyn hyn o ganlyniad i’w hafau prysur o werthu ac, yn ôl pob sôn, gwanhau. Ni all hyn wedi bod yn bellach o’r gwir wrth i’r ddau dîm gwrdd yn Vicarage Road yn y gobaith o agosai at ymweliadau i Arsenal a Chelsea dymor nesaf, nid teithiau hir-wyntog i Scunthorpe a Doncaster.

Er taw dim ond tair lle oedd yn gwahaniaethu’r dau dîm yn y gynghrair, roedd yna fyd o wahaniaeth rhyngddynt ar y cae. Rhywsut roedd y gêm yn ddi-sgôr tan 70 munud ac roedd hyn, yn bennaf, oherwydd bod Neil Alexander yn parhau â’i berfformiadau odidog diweddar. Cafodd Jay DeMerit a Malky Mackay, yn enwedig, eu rhwystro gan yr Albanwr yn y gôl. Roedd rhaid i Darren Purse helpu’i gôl-geidwad ar adegau wrth iddo glirio oddi ar ei linell ei hun a taclo’n ffyrnig trwy gydol y gêm. Bu ansicrwydd ymosodwyr y tîm cartref hefyd yn gymorth i’r Adar Gleision. Er i’r sgôr 0-0 awgrymu bod y hanner cyntaf yn agos, roedd y gêm mor un-ochrog ei fod yn chwerthinllyd.

Aeth Marlon King a Hamer Bouazza yn agos nifer o weithiau ond yr amddiffynwr, Mackay, rhoddodd Watford ar y blaen. Ar ôl pwyso a phwyso am oesoedd, peniodd Makay groesiad cywir Bouazza yn sicr i gefn y rhwyd. Y syndod oedd ei fod wedi cymryd dros awr i Watford fynd ar y blaen.

Anochel oedd y gôl cyntaf ond, yn rhyfeddol, roedd y ddau dîm yn hafal o fewn pum munud. Yn annisgwyl, Jeff Whitley rhwydiodd i unioni’r sgôr a’i ergyd gywir o bas Jason Koumas. Tan hyn, roedd y ‘Hornets’ wedi sicrhau bod Koumas yn dawel ac heb fwynhau llawer o feddiant o gwbl.

Yn ystod y chwarter awr olaf, roedd Alexander a’i amddiffynwyr yn brysur ac ymddangosai eu bod wedi gwneud digon i sicrhau pwynt gwerthfawr. Dim ond tair munud oedd yn weddill pan wnaeth Riccy Scimeca gamgymeriad mwyaf cywilyddus y tymor. Roedd ganddo ddigon o amser i ddeiws y bas cywir a dewisodd i basio at Alexander ond yr anhawster oedd ei fod heb weld Marlon King tu ôl iddo fo. Roedd y bas yn llawer rhy wan a gafodd King y cyfle hawsaf bosib i sgorio a dyna’n union a wnaeth prif sgoriwr y gynghrair.

Dyna oedd ddiwedd y sgorio wrth i Watford sicrhau’u degfed buddugoliaeth mewn un ar ddeg gem. Tarodd Koumas y postyn tuag at ddiwedd y gêm ond, mewn gwirionedd, nid oedd yr ymwelwyr yn haeddu pwynt. Er i’r canlyniad fod yn siom, y braw mawr oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau – Watford oedd yr unig dîm i edrych fel y bysent yn gallu ennill a dangoson nhw pam eu bod dim ond saith pwynt o’r ail safle. Rhaid anghofio am gamgymeriad Sciemeca ac edrych ymlaen i ymweliad Sheffield Wednesday ddydd Sadwrn wrth i ni ystyried y golled un-ochrog yma.