Cardiff City's ‘Week in Welsh'

Last updated : 28 March 2006 By Dafydd Pritchard

Rhwystredigaeth oedd thema'r penwythnos diwethaf wrth i Gaerdydd fethu cymryd mantais ar fethiannau eu cydymgeiswyr am y gemau ail-gyfle. Ar ddydd Sadwrn, roedd yna gyffro'n ymledu ar hyd y brif ddinas wrth i fargenion arbennig awgrymu bod y dorf yn mynd i fod yn un mawr ond siom oedd y gêm. Bu tywydd hunllefus yn sicrhau taw prynhawn i'w anghofio oeddi hi.

Amddiffynwyr oedd yn rheoli trwy gydol y gêm a bu capteniaid y ddau dîm, Darren Purse a Danny Shittu, ar eu gorau. Wrth i gewri'r amddiffyn lyncu pob pas, roeddi hi'n anochel taw 0-0 bysai'r sgôr terfynol. Unwaith i Cameron Jerome dorri trwy linell cadarn yr ymwelwyr, roedd Shittu yno i daro'r bêl i ddiogelwch. Prin oedd cyfleon a phan ddaeth hanner-cyfleon i naill dîm na'r llall yr ymgais gorau oedd ergyd Joe Ledley a wibiodd heibio'r postyn.

Rhyddhad oedd hanner amser, cyfle i'r cefnogwyr anghofio am ddiflastod yr hanner cyntaf. Ar ôl tri chwarter awr o ddim byd, rhyfedd oedd gweld cyfle i QPR o fewn pum munud i'r ail hanner ddechrau. Arbediodd Neil Alexander yn gampus o gic rhydd peryglus Gareth Ainsworth, cyn-chwaraewr Caerdydd a oedd wedi mwynhau croeso cynnes iawn oddi wrth y dorf. Daeth cyfle gorau'r gêm i Jerome ond gwastraffu'i gylfe y wnaeth yr ymosodwr ifanc. Er fod ganddo oes i ddewis sut i sgorio, rhoddodd Jerome digon o amser i Paul Jones ruthro o'i gôl ac i arbed yn gyfforddus.

Uchafbwyntiau'r ymwelwyr oedd cyfleon Marc Nygaard a Paul Furlong ond roedd gan Alexander, Loovens a'r postyn ddigon i atal QPR rhag sgorio. Wrth i'r gêm agosai at ei ddiweddglo, roedd y dorf wir wedi'u rhwystro a daeth yr unig gynnwrf wrth i'r cyn-Aderyn Las, Richard Langley ddod i'r cae. Ni setlodd Langley yn iawn yn ystod ei amser yng Nghaerdydd ac roeddi hi'n amlwg bysai'r cefnogwyr yn troi arno unwaith iddo gamu ar y cae. Yn fy marn i, chwaraewr wir ddawnus oedd Langley a all fod wedi gwella'n tîm presennol. Siom oedd ei weld yn gadael yn yr haf a llawer fwy siomedig oedd clywed bloeddi sarhaus ac ymddygiad gwarthus ein cefnogwyr tuag at y chwaraewr canol cae.

Dim goliau, felly, ac yn sicr dim byd i'w gofio am y gêm. Ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Plymouth penwythnos diwethaf, rhwystredig iawn oedd methu cymryd mantais ar golledion Wolves ac eraill. Rydym yn dal i gystadlu am le yn y gemau ail-gyfle ond mae'n ymddangos bod ein carfan bach yn blino. Mae Whitley allan ohoni, Ledley yn hollol anweledig heb law am ambell i gyfraniad bach a Jerome yn ymddangos i betruso o flaen gôl. Ers ddechrau mis Chwefror, nid yw ymosodwr dan 21 Lloegr wedi edrych fel y bygythiad yr oedd ar ddechrau'r tymor ac annoeth oedd ei sylwadau ddiweddar yn y wasg. Ni allwn feio Ledley a Jerome am flino am eu bod yn ifanc iawn ac yn dal i ddatblygu. Yr hyn sydd yn anodd iddynt hwy yw'r ffaith eu bod yn methu ymlacio am fod rhaid iddynt chwarae'n ddi-baid o ganlyniad i ddiffyg chwaraewyr yn y garfan.

Beth bynnag sydd am ddigwydd yn yr wythnosau nesaf, mae wedi bod yn dymor lwyddiannus i Dave Jones, wedi iddo sefydlogi'r clwb a sicrhau dyfodol disglair i chwaraewyr megis Ledley a Jerome ac i Gaerdydd fel tîm.