Cardiff City's ‘Week in Welsh'

Last updated : 06 April 2006 By Dafydd Pritchard

Wythnos gythryblus oeddi hi i Gaerdydd wrth iddynt weld eu gobeithion gemau ail-gyfle yn diflannu, Dave Jones yn awgymu ei fod am adael os yw cyfleusterau'r clwb ddim am wella ac i bennu'r penwythnos, dau hurtyn Abertawe'n cael eu harestio am sarhau Caerdydd yn Stadiwm y Mileniwm.

Ymddangosai taw ddydd Sadwrn oedd diwedd ymgais yr Adar Gleision i gyrraedd gemau ail-gyfle'r tymor hyn. Ar ôl y golled yn Southampton, maent wyth o bwyntiau oddi ar Preston, y tîm sydd yn dal i fynychu'r chweched safle. Gan fod canlyniadau arall wedi mynd yn eu herbyn, roeddi hi'n hanfodol bod Caerdydd yn cadw i bwyso ar y tîmau uwch eu pennau ond sicrhaodd goliau Ricardo Fuller a Claus Lundekvam taw diwrnod aflwyddiannus oeddi hi i ‘City'.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn dda wrth i Glenn Loovens daro'r trawst a bu Cameron Jerome yn fygythiad parhaol â'i gyflymder. Er hyn, Southampton aeth ar y blaen wrth i Lundekvam sgorio gôl brin o groesiad Jim Brennan. Hanner cyntaf eithaf cytbwys oeddi hi, y ddau dîm yn cyfnewid nifer o gyfleon. Yn yr ail hanner, Jerome beniodd Caerdydd yn gyfartal i ail-danio'u gobeithion. Gêm bwysig oeddi hi i Gaerdydd ond gêm dyngedfennol oeddi i Southampton wrth iddynt geisio osgoi alltudiaeth. Fuller oedd arwr y Seintiau wrth iddo sgorio dau gôl o fewn pum munud i'w gilydd, un yn flêr a'r llall yn ergyd gywir o gornel. Yn ystod yr eiliadau olaf, rhoddodd Darren Purse fflachiad sydyn o obaith i'w dîm ond siom oeddi hi i'r ymwelwyr yn y diwedd wrth iddynt golli o dair gôl i ddwy.

Yn ystod cyfweliadau ar ôl y gêm, rhoddodd Dave Jones ychydig o fraw i gefnogwyr Caerdydd wrth iddo awgrymu ei fod yn ystyried gadael os nad yw cyfleusterau a stadiwm y clwb yn gwella. Er hyn, brysiodd i ychwanegu ei fod yn dal yn hollol ymrwymiol i'r achos yn y Brif Ddinas. O ran newyddion arall, cafodd Lee Trundle ac Alan Tate eu harestio gan Heddlu De Cymru ddydd Mercher yn dilyn digwyddiad ar ddiwedd eu gêm yn rownd derfynol Tlws y Gynghrair, lle bu'r ddau chwaraewr yn dal baner anweddus a sarhaus at Gaerdydd. Twt lol!

Wrth agosai at ddiwedd tymor cyntaf Dave Jones, felly, gwelir bod ein cyfle prin o ddyrchafiad wedi dod i ben ond rhaid cofio taw llwyddiant yw'r ffaith ein bod wedi dod mor agos. Os all Jones aros am dymhorau i ddod, byddwn yn siwr o weld y garfan, y cyfleusterau a'r stadiwm yn datblygu i fod o safon yr Uwch Gynghrair. Cadwch y ffydd!