Cardiff City's 'Week in Welsh'

Last updated : 10 November 2006 By Dafydd Pritchard

Y newyddion heddiw yw bod y clwb yn trafod a Manchester United am arwyddo Alan Smith ar fenthyg.

Ar ôl iddo dorri ei bigwrn yn erbyn Lerpwl ym mis Chwefror, nid yw ymosodwr Lloegr wedi llwyddo i ennill lle yn nhîm cyntaf Syr Alex Ferguson. Er mwyn iddo gael mwy o amser chwarae, mae'r hyfforddwr profiadol wedi caniatáu'r Adar Gleision i drafod amodau personol â chyn-gapten Leeds.

Y rheswm tu ôl i'r trafodaethau yw anaf diweddar Steve Thompson, a gan taw dim ond Kevin Campbell a Luigi Glombard sydd ar gael i chwarae â Michael Chopra, mae'r clwb yn yssu i gael ymosodwr profiadol o safon uchel. Peter Ridsdale, yn ôl pob sôn, yw'r dylanwad mwyaf ar y gytundeb posib, gan ei fod yn gyfarwydd iawn â Smith yn dilyn ei amser fel cadeirydd Leeds.

Byddai Smith wedi bod yn ddefnyddiol ar brynhawn ddydd Sadwrn diwethaf wrth i Gaerdydd golli am y trydydd gwaith y tymor yma. Bu goliau Kevin McLeod, Jamie Guy a Jamie Cureton yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Colchester o dair gôl i un. Wedi i Chopra unioni'r sgôr, roedd y gêm yn edrych fel un i'w ennill i Gaerdydd ond bu amddiffyn gwawdlyd yr ymwelwyr a phenderfyniadau y dyfarnwr yn golygu taw colli oedd hanes yr Adar Gleision.

Roedd y gêm yn un agos ac ar ôl i'r ddau gôl-geidwad arbed eu timau o bryd i'w gilydd, roedd y sgôr yn gyfartal ar yr egwyl. Daeth y gôl cyntaf ar ôl pum munud o'r ail hanner wrth i McLeod, cyn-chwaraewr Abertawe, rhwydo o groesiad Greg Halford ond, o fewn saith munud, daeth Chopra â'i dîm yn gyfartal. Gôl Guy oedd y gwahaniaeth a roedd y gêm ar ben yn barod wedi i Stephen McPhail lorio Ritchie Jones i roi cyfle i Cureton sgorio o'i gic smotyn.

Cafodd McPhail gerdyn coch am y drosedd ond, ar ddydd Iau, daeth y newyddion bod Dave Jones wedi llwyddo efo'i apêl i ddileu gwaharddiad y Gwyddelwr, ac mae'r chwaraewr canol cae felly ar gael yn erbyn Burnley.

Gêm allweddol yw hi yfory. Mae Caerdydd ond dau bwynt o flaen eu gwrthwynebwyr ac mae tîm Steve Cotterill wedi bod yn llwyddiannus dros ben oddi cartref y tymor yma. Dyma cyfle'r Adar Gleision i gryfhau eu gafael ar frig y Bencampwriaeth. Gobeithio i Alan Smith arwyddo mewn pryd i ysbrydoli ei dîm newydd posib i fuddugoliaeth campus.