Cardiff City's 'Week in Welsh'

Last updated : 17 December 2006 By Dafydd Pritchard

Oddi ar y cae, roedd yr wythnos yn un eithaf tawel i gymharu â'r prysurdeb diweddar o newyddion stadiwm, anafiadau a gemau Cwpan F.A.

Y gêm gyfartal yn erbyn Ipswich oedd canolbwynt y saith diwrnod diwethaf, a gêm ryfedd oeddi hi. Dechreuad ddelfrydol y gafodd Caerdydd wrth i Darren Purse rwydo efo'i ben-glin o groesiad Kevin McNaughton, a ddaeth o gic cornel fer. Ar ôl y gôl hynny yn y drydedd munud, ni fu unrhyw llif i chwarae'r naill dîm na'r llall. Bu ymosodwyr y tîm cartref, Michael Chopra a Kevin Campbell, yn ei chael hi'n anodd i greu unrhyw gyfleoedd o'r gwasanaeth y roeddent yn derbyn o ganol-cae.

Ipswich oedd y tîm i gadw'r bêl yn fwyaf effeithlon ond, er hynny, nid oeddent hwy yn medru dod o hyd i ffordd heibio Purse, a oedd yn gadarn yn yr amddiffyn.

Er yr holl broblemau y mae'r clwb wedi gwynebu yn ystod y mis diwethaf, roedd safon isel y chwarae yn syfrdanol. Bu pasio'r ddau ochr yn wawdlyd ar adegau, wrth i naill dîm na'r llall reoli'r patrwm chwarae, a gafodd hyn ei adlewyrchu gan y sgôr. Roedd y ffaith mai Purse a Riccardo Scimeca, dau chwaraewr amddiffynol, oedd yn disgleirio'n fwyaf llachar yn dangos mai gêm i'w anghofio oeddi hi ar brynhawn ddydd Sadwrn. Yn wir, Purse sgoriodd y ddwy gôl ac y fe yn unig oedd yn edrych yn debygol o wir achosi problemau i amddiffynwyr yr ymwelwyr.

Ni ddaeth y gêm yn fyw eto tan i John Macken sgorio'n aniben o gic gornel yn gynnar yn yr ail hanner. Unwaith eto, yn dilyn gôl cynnar, trodd y gêm yn un diflas a blêr a'r hyn a drodd y gêm ar ei phen oedd penderfyniad dewr y dyfarnwr i roi cic o'r smotyn i Gaerdydd. Cafodd Steve Thompson gwthiad i'w wyneb gan Jason De Vos ac, ar ôl iddo drafod â'i limanwr, penderfynodd Mr Hall i roi'r cyfle i Purse sgorio'i ail gôl yn y gêm. Os oedd Ipswich yn teimlo bod y penderfyniad yn un hallt, nid oeddent yn cwyno am hir, wrth i'r dyfarnwr rhoi cic o'r smotyn iddynt hwy o fewn pum munud i'r un diwethaf. Roedd yr un yma ychydig yn glirach wrth i Chris Gunter ddangos ei ddiffyg profiad gan lorio Gary Roberts yn y cwrt cosbi. Roberts camodd ymlaen i ergydio'n hyderus i gornel y rhwyd ac i sicrhau pwynt gwerthfawr i'r ymwelwyr. Heb law am ambell i hanner cyfle i'r ddau dîm, parhaodd y gêm i ddiflasu a'r sgôr derfynol oedd dwy gôl yr un.

Oddi ar y cae, o'r newyddion bach sydd yno, y mae Neil Alexander wedi gwrthod arwyddo cytundeb newydd â'r clwb. Er ei fod ef yn yssu i aros yn y brif ddinas, nid yw wedi gallu dod at gytundeb am amser hir erbyn hyn. Mae'r Albanwr wedi mwynhau pum mlynedd cymysg â Chaerdydd ond mae ei berfformiadau diweddar wedi haeddu cytundeb newydd o safon da. Nid yw sefyllfa'r gôl-gedwad yn hynod o glir am fod y Gwyddel, David Forde, newydd arwyddo sydd yn awgrymu bod Dave Jones â chynllunio wedi'u gosod os nad yw Alexander yn aros. Yn fy marn i, mae'r cyn-chwaraewr Livingston wedi perfformio'n ddigon da i haeddu dangosiad o ffydd yn ei allu oddi wrth ei glwb ond, am y tro, mae'r sefyllfa'n un agored.

Taith cyffroes i un o ddinasoedd mwyaf hyll Prydain, Hull, sydd yn gwynebu Caerdydd yfory. Maent wedi bod yn trafod ag Iain Dowie yr wythnos yma am y bosibiliad o gyn-rheolwr Charlton a Crystal Palace yn dod i rym yn y Stadiwm KC. Er iddynt wario'n sylweddol ar chwaraewyr fel Sam Ricketts a Nicky Forster, mae Hull dim ond un lle oeddi ar waelod y Bencampwriaeth a byddent yn edrych i wella'u sefyllfa ar ôl cael gwared o'r cyn-reolwr, Phil Parkinson. Colli 2-0 oedd hanes yr Adar Gleision y tymor diwethaf yn Hull, efo Purse yn gweld y garden goch ond, os y mae Purse yn aros ar y cae, ac os y mae'r ymosodwyr yn ail-ddarganfod y goliau, gall yr ymweliad i'r KC yfory fod yn llawer mwy llawen.