Cardiff City's 'Week in Welsh'

Last updated : 22 December 2006 By Dafydd Pritchard

Pan roedd yr erthygl hon yn cael ei hysgrifennu yn gynharach, roedd y clwb yn gwynebu'r bosibiliad o fynd mewn i weinyddiaeth ond, erbyn hyn, mae'r trafferthion diweddaraf yn ymddangos eu bod wedi'u datrys.

Yn ôl ym mis Hydref datganiodd Sam Hammam ei fod yn barod i roi grym i grŵp newydd o fuddsoddwyr (wedi'u harwain gan Peter Ridsdale, y cadeirydd newydd), gan dderbyn ei fod methu cymryd y clwb ymlaen ymhellach ond, dros y dyddiau diwethaf, bu sôn bod y gŵr o Lebanon yn ail-ystyried gwerthu ei fudd-daliadau ac felly yn peryglu dyfodol y clwb.

Mae cyngor y ddinas wedi'i wneud yn berffaith glir nid ydynt am ddelio efo Hammam ac mae cael eu caniatâd i adeiladu y stadiwm felly'n gwneud apwyntiad y consortiwm newydd yn hanfodol. Dim ond efo grŵp Ridsdale y byddai Caerdydd yn gallu datblygu eu syniadau o ddyrchafiad a stadiwm newydd, felly mae'r diwedd ar gymhlethdod sefyllfa Hammam yn ryddhad.

Y pryder oedd bod Hammam yn barod i roi'r clwb (y dywedodd ei fod yn ‘caru') mewn i drafferthion ariannol difrifol er mwyn iddo sicrhau gwell elw o'i werthiant. Roedd yn ymddangos bod y gŵr o Lebanon yn mynnu codi'r pris am ei fudddaliadau ac, o ganlyniad i hyn, yn oedi'r newidiad o berchnogion y clwb, ac yn peryglu dyfodol Caerdydd. Os nad oedd y ddau ochr wedi dod at gytundeb heddiw, byddai'r peryg o fynd mewn i weinyddiaeth yn realiti pryderus iawn. Byddai hyn wedi golygu gwerthu ein chwaraewyr gorau, cael ein cosbi gan ddeg pwynt a gweld Dave Jones yn gadael, heb sôn am golli unrhyw gefnogaeth o fuddsoddwyr. Wrth ystyried yr elfennau yma, cawn well berspectif o bwysigrwydd cyfarfodydd heddiw.

Cefndir gymysg iawn sydd gan Hammam yn ei yrfa bêl-droed. Er iddo gymryd Wimbledon i'r Uwch Gynghrair, pan ddiflannodd cynlluniau am stadiwm newydd, fe adawodd y dyn busnes yn syth a gwerthu'r clwb i fuddsoddwyr o Norwy sydd ddim bellach i'w gweld yn y byd pêl-droed. Erbyn hyn, mae Wimbledon wedi'u rhannu'n ddau glwb – MK Dons, yn y drydedd gynghrair, ac AFC Wimbledon, sydd o leiaf pedwar dyrchafiad o gyrraedd yr un cynghrair. Mae hanes cyn-glwb Hammam yn codi braw i unrhyw gefnogwr, a felly ryddhad yw'r ffaith bod hyn y nawr yn anhebygol o ddigwydd i Gaerdydd.

Ar y cae, mae'r sefyllfa'n dal i waethygu. Yn dilyn rhediad o bump gêm heb fuddugoliaeth roedd yr ymweliad i Hull, a oedd yn drydedd ar hugain yn y gynghrair, yn ymddangos fel cyfle euraidd i ddychwelyd i lwyddiannau cynharach y tymor. Ni ddigwyddodd hyn. Er i Michael Chopra sgorio'i gôl cyntaf ers amser maith, cafodd yr ymwelwyr grasfa o bedair gôl yn erbyn un. Dyma oedd perfformiad mwyaf cywilyddus y tymor ac mae Dave Jones wedi rhybuddio nid oes ofn ganddo i newid y garfan yn sylweddol erbyn i ffenestr brynu Ionawr agor.

Cyn sôn am arwyddo chwaraewyr newydd, mi fydd Jones yn hapus â'r ffaith bod Kerrea Gilbert wedi dychwelyd o'i anaf a bod Stephen McPhail wedi cyflawni ei waharddiad. Efo'r dau chwaraewr yma'n ôl yn y tîm, bydd yn bosib i Gaerdydd wynebu Caerlŷr yfory efo'r tîm a fu mor llwyddiannus yn gynharach yn y tymor. Dylai ddychweliad y ddau yma fod yn sbardun am welliant ym mherfformiadau gweddill y garfan. Mae'r amser wedi dod i'r Adar Gleision ail-ddarganfod eu gallu i ennill gemau ac, ar ôl rhoi pryderion oddi ar y cae i un ochr, y gobaith y fydd iddynt gadarnhau eu gafael ar le yn safleoedd y gemau ail-gyfle.