Cardiff City's 'Week in Welsh'

Last updated : 20 February 2007 By Dafydd Pritchard

Buddugoliaeth i'w gofio oeddi hi wrth i'r Adar Gleision frwydro'n galed i ennill o un gôl i ddim, er iddynt orffen y gêm â naw chwaraewr ar y cae. Un o'r rheini i dderbyn cerdyn coch oedd Michael Chopra, y gŵr a sgoriodd unig gôl y gêm, a ni fydd ef ar gael ar gyfer yr ornest holl-bwysig yn erbyn West Brom yfory.

Mewn wythnos gythryblus o ran disgyblaeth ar y cae, mae Dave Jones wedi gweld Glenn Loovens, Chopra a Simon Walton yn cael eu danfon o'r cae. Ar bob adeg, mae'r dyfarnu wedi ymddangos yn lletwyth, er taw dau ddyfarnwr o'r Uwch Gynghrair, Graham Poll a Mark Clattenburg, sydd wedi bod yn gyfrifol am y dau gêm diwethaf. Fel yr arfer, Poll oedd seren y gêm yn erbyn Coventry ac mae'n siwr bod Loovens, wrth ystyried hanes diweddar Mr Poll, yn teimlo mai cam oedd derbyn cerdyn coch ar ôl dim ond dwy gerdyn melyn.

Nid oedd pêl-droed deiniadol ar y fwydlen ar ddydd Sadwrn, wrth i Leeds fynnu eu bod nhw am lansio unrhyw fath o feddiant yn syth i gwrt cosbi'r tîm cartref, heb ddefnyddio'u chwaraewyr canol cae. Ar ôl dweud hynny, cyfiawnhawyd ystyriaeth y cynllun gan safon anobeithiol y rheini yng nghanol tîm yr ymwelwyr. Roedd chwarae Leeds yn adlewyrchu eu safle ar waelod y Bencampwriaeth, a nid yw pethau'n ymddangos fel eu bod ar fin gwella'n fuan. Bu'r ffaith bod Gus Poyet, eu his-hyfforddwr, yn disgrifio'r hanner awr olaf yn, "30 munud gorau'r tymor oddi cartref" iddynt, yn esbonio'r cyfan.

Unwaith eto, felly, Michael Chopra oedd yr arwr, ac am y drydedd gêm gartref yn olynol, sicrhaodd yr ymosodwr y fuddugoliaeth efo chic rhydd wefreiddiol. Mewn man tebyg i gôl enwog Graham Kavanagh yn erbyn yr un tîm, cododd y Geordie byr y bêl dros y mur amddiffynol ac i gornel uchel y rhwyd. Trodd yr arwr yn elyn yn yr ail hanner wrth iddo dderbyn cerdyn coch am ddefnyddio'i ben-elin wrth gystadlu am y bêl efo Hayden Foxe. Os mai hallt oedd hynny, chwerthynllyd oedd penderfyniad Clattenburg i ddanfon Walton o'r cae am ffugio anaf ar ôl iddo dderbyn tacl rymus.

Wrth ddod at chwarter olaf y gêm, roedd yn ymddangos bod y dyfarnwr wedi colli rheolaeth ar yr ornest ond, yn ffodus, nid oedd yr un peth yn wir am dîm Caerdydd. Roedd yr amddiffyn yn gadarn, yn enwedig Kevin McNaughton, a oedd yn arwr yng nghanol yr amddiffyn, ac yn ffactor amlwg iawn ym muddugoliaeth cofiannol y tîm cartref.

Ymlaen i West Brom nos yfory felly, a heb Chopra, Walton, Purse ac ati, mi fydd yn her go ddifri i garfan Jones. Er y gwaharddiadau a'r anafiadau, mae'n bwysig bod Caerdydd yn parhau efo'u rhediad llewyrchus diweddar. Mae'r tri gêm nesaf yn ein gweld yn herio'r ffefrynnau am ddyrchafiad ond, os yr ydym o ddifri am gyrraedd yr Uwch Gynghrair, mae'n hanfodol ein bod yn ennill pwyntiau yn erbyn rhain.