Cardiff City's Week In Welsh

Last updated : 13 March 2007 By Dafydd Pritchard

Yng nghanol cyfnod o chwarae yn erbyn cyd-gystadleuwyr am ddyrchafiad, mae wedi bod yn gyfnod gymysglyd wrth i'r tîm, gan fwynhau buddugoliaeth campus dros Preston rhwng dau golled i West Brom, ac yna i Birmingham.

Y golled ddiweddaraf sydd wedi effeithio gobeithion dyrchafiad y Brif Ddinasyddion mwyaf ddifrifol. Ar fore ddydd Sul, roedd y glaw yn tywallt ar ben St Andrews ac, o ganlyniad i hyn, roedd rhaid i'r gêm â Birmingham gael ei chwarae ar y fath o ffos y byddai wedi achosi embaras i dîm amatur. Yn ddisgwyliadwy, gêm anniben oeddi hi, wrth i'r naill dîm na'r llall lwyddo i ymdopi â'r amgylcheddau'n iawn.

Trwy gydol yr hanner cyntaf, Caerdydd oedd y tîm i addasu ei gêm i'r cae yn fwyaf effeithiol. Roedd amddiffynwyr Birmingham yn cael hunllef o gêm ac oni bai am y glaw trwm, byddai Michael Chopra wedi sgorio o leiaf un. Bu cyfleon i Steve Thompson hefyd ond, wrth i'r gêm fynd yn bellach heb i'r ymwelwyr sgorio, roeddi hi'n edrych yn anochel mai'r tîm cartref y byddai'n ennill.

Rhaid bod Steve Bruce wedi mynegi ei hun mewn modd digon di-flewyn-ar-dafod oherwydd dechreuodd Birmingham yr ail hanner fel tîm gwahanol. Daeth Gary McSheffrey i'r amlwg ac y fe oedd yn gyfrifol am greu unig gôl y gêm. Roedd Kevin McNaughton wedi bod yn chwarae fel arwr yn y cefn ac roedd angen rhywbeth arbennig iawn i'w guro ac, yn anffodus, chwaraewr arbennig iawn yw McSheffrey. Yn dilyn sodliad godidog y cyn-chwaraewr Coventry, rhyddhawyd Matt Sadler i groesi, trwy coedwig o goesau, at Sebastian Larsson er mwyn iddo rhwydo ar 56 munud.

Er i Gaerdydd ymdrechu'n barchus i unioni'r sgôr, nid oedd cyflwr y cae am ganiatâu gêm agored a 1-0 oedd y sgôr derfynol. Daeth Roger Johnson yn agos iawn efo foli wefreiddiol ond gall fod Birmingham wedi ymestyn eu mantais. Cyn-chwaraewr Caerdydd, Cameron Jerome, gafodd y cyfle gorau ond roedd Neil Alexander yno i'w rwystro.

Yr hyn oedd mwyaf rhywstredig am y gêm yn Birmingham oedd y ffaith bod Caerdydd wedi bod yn chwarae mor dda yn ddiweddar. Gwelwyd un o berfformiadau gorau'r tymor ym Mharc Ninian nos Wener ddiwethaf, efo'r Adar Gleision yn rhoi cweir o bedair gôl i un yn erbyn Preston. Gwir arwyddocad y canlyniad oedd safle'r tîm o Swydd Gaerhirfryn, a oedd yn bedwerydd cyn y gêm ond, ar ôl gadael Cymru, roeddent yn seithfed.

Peter Whittingham oedd seren y gêm hynod ddiddanol, yn sgorio un gôl ac yn creu dwy arall. Roedd y prif-sgoriwr, Chopra, yn ddiolchgar i'r cyn-chwaraewr Aston Villa, wrth iddo'i gynorthwyo i sgorio'i ugeinfed a'i unfed gôl ar hugain.

Er iddi fod yn hanner cyntaf bywiog, di-sgôr oeddi hi tan i Whittingham sgorio munud cyn yr egwyl. Yn dilyn gwaith da Paul Parry ar yr asgell dde, roedd Whittingham ar gael i ergydio'n raenus i gornel isaf y rhwyd o groesiad y Cymro.

Mantais haeddianol i Gaerdydd oedd hyn ond ar ôl yr egwyl daeth y tân gwyllt.

Ar 52 munud roedd Chopra wedi ennill gafael gadarn ar y gêm i'w dîm wrth iddo sgorio o'r smotyn ond, o fewn munud, roedd yr ymwelwyr wedi hanneri'r fantais. Lloriwyd Neil Mellor a Graham Alexander oedd yno i sgorio o'r gic cosb. Yn anghredadwy llwyr, roedd Caerdydd wedi ail-sefydlu eu mantais o fewn munud i gwblhau tair munud cofiadwy o bêl-droed. Yr amddiffynwr Johnson oedd yno ger y postyn cefn i benio'i gôl gyntaf i'r Adar Gleision a rhaid cymeradwyo cyn-gapten Wycombe am ei ddathliad hurt.

Deuddeg munud yn hwyrach, roedd y sgorio ar ben wrth i Chopra sgorio'i ail. Whittingham oedd yr ysbrydoliaeth, yn curo amddiffynwr Preston trwy ei goesau efo sodliad anhygoel cyn pasio i'w gyd-chwaraewr i rwydo'n ddi-ffwdan. Roedd y gôl yn ffordd addas i goroni nosweth wych o bêl-droed ond, yn dilyn y canlyniad anffodus diweddar, mae'n hanfodol bod Caerdydd yn ennill yn erbyn Norwich neu her go ddifri bydd hi i gyrraedd safleoedd y gemau ail-gyfle.