Craig Bellamy's Ebola Concerns - Exclusive S4c Interview

Last updated : 19 October 2014 By Michael Morris

C:WindowsTempphp9603.tmpS4C sports programme Clwb will broadcast its revealing interview with the former Wales football forward Craig Bellamy today (Sunday, 19 October) from 12.30pm.

The interview will be shown in three parts – at 12.55pm, 3.40pm and 6.10pm – and then shown in a full and extensive version on the S4C website s4c.co.uk from 6.30pm onwards on Sunday evening.

In a candid interview with his close friend, sports pundit and former Wales rugby international David Bishop, he talks frankly about his career, his family, Wales’ recent Euro 2016 qualification matches and Cardiff City.

And he reveals his anguish about the spread of the deadly Ebola virus to the area in the western coast of Sierra Leone where his football academy is based.

Ebola has reached the city of Waterloo – just a few miles from the fishing town of Tombo where his academy is based.

Craig Bellamy’s football school in Africa, which is financed by The Craig Bellamy Foundation, says it has taken every precaution to ensure  that the deadly Ebola virus doesn’t reach the young football stars in his academy.

That doesn’t stop the former footballer worrying constantly about his prodigies in the school.

In an emotional interview, Craig Bellamy says,

“The Ebola crisis has been such a difficult time for everyone in Sierra Leone and also in Liberia and Guinea, and other certain areas of west Africa.

“I mean, what  do we do..? I don’t know if I’m being perfectly honest, but the simple fact is if I left my academy boys go back to their home towns and home villages, they have a greater chance of catching the disease. So what do we do – keep them on the premises day in day out constantly – as if they were in a prison where they can’t leave?”

He confirmed that he was having regular meetings with the academy administrators on Tombo, but no decision has been made regarding the young footballer’s movements in the coming months.

Also In the interview. Bellamy, 35, who played for Liverpool, Manchester City and Newcastle among many other top clubs in a career spanning over three decades, assesses the current Wales squad.

He shares his characteristically forthright views about Wales' recent performances as his former international team-mates attempt to reach the European championship finals in France in 2016.

And also talks about his dreams of being a football manager one day and about the football players he most admires.

 

BELLAMY YN AGOR EI GALON AM BERYGLON EBOLA -  - CYFWELIAD S4C 

Mae cyn seren Cymru a Chaerdydd Craig Bellamy wedi bod yn siarad am ei ofid am iechyd a diogelwch y pêl-droedwyr ifanc yn ei academi pêl-droed yn Sierra Leone mewn cyfweliad ecsgliwsif ar gyfer sioe chwaraeon S4C, Clwb. 
 
Bydd rhaglen Clwb yn darlledu’r cyfweliad dadlennol gyda chyn ymosodwr Cymru heddiw (Sul, 19 Hydref) o 12.30 ar S4C. 

Bydd y cyfweliad yn cael ei ddangos mewn tair rhan - am 12:55, 15:40 a 18:10 - ac yna'n eu dangos mewn fersiwn lawn a helaeth ar wefan S4C s4c.co.uk o 6.30pm ymlaen nos Sul. 

Mewn cyfweliad gonest gyda'i gyfaill agos, y sylwebydd chwaraeon a chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol David Bishop, mae'n siarad yn agored am ei yrfa, ei deulu, gemau rhagbrofol  Ewro 2016 Cymru ac am glwb pêl-droed  Caerdydd. 

Mae’n datgelu ei wewyr o weld y feirws marwol Ebola yn lledaenu i'r ardal ar arfordir gorllewinol Sierra Leone lle mae ei academi bêl-droed.

Mae’r feirws Ebola wedi cyrraedd dinas Waterloo - dim ond ychydig filltiroedd o dref bysgota Tombo lle mae’r academi.

Mae gweinyddwyr ysgol bêl-droed Craig Bellamy yn Affrica, sy'n cael ei hariannu gan The Craig Bellamy Foundation, yn dweud eu bod wedi cymryd pob cam posibl i sicrhau nad yw'r feirws Ebola marwol yn cyrraedd y sêr pêl-droed ifanc yn ei academi. 

Nid yw hynny'n atal y cyn bêl-droediwr rhag poeni am y bobl ifanc yr ysgol. 

Mewn cyfweliad emosiynol, meddai Craig Bellamy, 

"Mae'r argyfwng Ebola wedi bod yn anodd iawn i bawb yn Sierra Leone a hefyd yn Liberia a Guinea, a rhai ardaloedd eraill o orllewin Affrica. 

"Beth ddylem ni  wneud ..? Dwi ddim yn gwybod a bod yn berffaith onest, ond y ffaith syml yw hyn, petawn yn gadael i’r bechgyn yn yr academi fynd adre’ i’w teuluoedd a’u pentrefi, maen nhw’n fwy tebygol o ddal y clefyd. Felly, beth ydym yn ei wneud - eu cadw ddydd ar ôl dydd yn yr academi fel petawn nhw  mewn carchar...?”

Cadarnhaodd ei fod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda gweinyddwyr yr academi yn Tombo, ond nid oes penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â  symudiadau’r pêl-droediwr ifanc yn ystod y misoedd nesaf. 

Hefyd yn y cyfweliad, mae Bellamy, 35, a chwaraeodd i Lerpwl, Manchester City a Newcastle ymhlith nifer o glybiau mawr eraill dros dri degawd, yn asesu carfan bresennol Cymru. 

Mae'n dweud ei ddweud yn blaen am berfformiadau diweddar Cymru gan fynegi ei farn am obeithion y tîm i gyrraedd rowndiau terfynol y bencampwriaeth Ewropeaidd yn Ffrainc yn 2016.

Mae hefyd yn siarad am ei freuddwydion o fod yn rheolwr pêl-droed rhyw ddydd ac am y chwaraewyr pêl-droed mae'n eu hedmygu fwyaf.