Watford match report. In Welsh

Last updated : 14 August 2005 By Dafydd Pritchard

Yn y gobaith o gael mwy o chwarae creadigol yng nghanol y cae, yr unig newid o’r tîm a wnaeth guro Leeds oedd Phil Mulryne a ddaeth mewn i’r tîm yn lle Willie Boland. Ni wnaeth hyn unrhyw wahaniaeth amlwg wrth i’r Adar Gleision ddechrau’r gêm mewn modd anrhefnus ac anhaclus. Roedd yr amddiffynwyr yn oedi, canol cae’n methu lledu’r bêl yn effeithiol a bu Cameron Jerome a Paul Parry’n methu a gwneud unrhyw cyfraniad gwerthfawr.

O ganlyniad i dangyflawni Caerdydd, aeth Watford ar y blaen ar ôl saith munud diolch i gôl gorau’r gêm, gan Marlon King. Yn derbyn y bêl ychydig tu allan i’r cwrt cosbi fe wnaeth King reoli’r bêl efo sodliad bach hyfryd cyn rhoi chwip o ergyd i gornel y rhwyd. Yn ystod y hanner cyntaf, bu’r ymwelwyr yn creu nifer o gyfleoedd arall ond diolch i ambell arbediad campus gan Neil Alexander, y sgôr ar yr egwyl oedd 0-1 i Watford. Bu’r diffyg amlwg o ymosodwr profiadol yn nhîm Nghaerdydd yn golygu bod y tîm cartref yn methu a chreu unrhwy cyfle sgorio. Hanner cyntaf siomedig.

O ddrwg i waeth oedd hanes yr ail hanner. Bu’r amddiffyn yn troi’n chwerthinllyd ar adegau wrth i Darren Purse ac Alexander wneud nifer o gamgymeriadau syml. Purse oedd ar fai am yr ail gôl wrth iddo fethu’n llwyr a marcio Darius Henderson a bu blaenwr Watford yn ddigon hapus i ddwbli mantais ei dîm wrth benio i gefn y rhwyd. Teimlad cwbwl digalon oedd yn ymledu o amgylch y stadiwm.

Yn dilyn rhagor o gamgymeriadau a diffyg cyfathrebu rhwng y chwaraewyr, bu Caerdydd yn caniatau eu gwrthwynebwyr i sgorio eto. Yn debyg i’r ail gôl, ni wnaeth yr Adar Gleision amddiffyn yn foddhaol a bu Marlon King yn manteisio i sgorio’i ail gôl. Roedd ganddo llawer ormod o amser i gasglu’r bêl yn y cwrt ac i daranu’r bêl heibio Alexander. Bu nifer o gefnogwyr yn gadael, wedi cael llond bol.

Efo deg munud i fynd, fe ddaeth pas llwyddiannus cyntaf y noson o ganol cae Caerdydd. Wedi sylwi ar rediad Jerome, fe wnaeth Neal Ardley godi’r bêl drwy ganol yr amddiffyn, yn gadael i Jerome gymryd y bêl o gwmpas y gôl-gadwr cyn rhoi’r bêl i’r rhwyd agored. Cysur bach iawn.

Perfformiad gwan iawn oedd hyn, o bell y gwaethaf y tymor hyn. Mae rhaid derbyn bod Watford wedi chwarae’n hynod o dda, yn broffesiynol dros ben wrth ennill yn gyfforddus. Y prif gobaith yw y bydd Dave Jones yn gallu dod a blaenwr profiadol i’r clwb. Derby nesaf felly, lle ddylai fod yna welliant mawr. Cadwch y ffydd!